PPCC Cartref
Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Cyngor Bro Morgannwg, Cyngor Sir Ceredigion, Cyngor Sir y Fflint, Cyngor Gwynedd, Cyngor Sir Ynys Môn, Cyngor Sir Powys, Cyngor Sir Benfro a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn gweithio mewn partneriaeth i brosesu’r Rhybuddion Talu Cosb. Mae PPCC sydd yn rhan o Gyngor Sir Ddinbych yn gweithio ar ran y 10 awdurdod i gefnogi’r gweithrediad gorfodaeth drwy ddelio â heriau, taliadau a phrosesu’r holl rybuddion talu cosb a gyflwynir.Nid oes troseddau na phyrth dim-parcio newydd, ond mae pob awdurdod yn ymdrechu llawer mwy i gadw’r strydoedd yn glir o gerbydau wedi parcio yn groes i’r cyfyngiadau aros. Bydd Rhybuddion Talu Cosb (RhTC) yn cael eu cyflwyno i unrhyw gerbydau sy’n mynd yn groes i’r rheoliadau parcio.
Gallwch dalu mewn person mewn unrhyw Swyddfa Bost. Ewch â’r Rhybudd Talu Cosb gyda chi pan fyddwch yn mynd i dalu. Sicrhewch eich bod yn cadw eich derbynneb wedi’i argraffu fel tystiolaeth o’r taliad. Fel arall gallwch bostio eich taliad i:
WPPPPO Box 273
Sir Ddinbych
LL18 9EJ
Sicrhewch fod sieciau/archebion post yn cael eu gwneud yn daladwy i PPCC (mewn punnoedd).
Important: Am wybodaeth ar sut mae’r Cyngor yn delio gyda data personol, gweler y rhybuddion Preifatrwydd ar wefan yr Awdurdod Dyroddi.
Cliciwch yma i weld ein Gweithdrefnau Gorfodaeth Parcio Sifil Dogfen